Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Mai 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5658


210(v5)

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8-9. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2-4  gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gofynnwyd y 4 cwestiwn.

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o Islamoffobia?

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am Wythnos Gweithredu ar Dementia

 

Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am - Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ennill gwobr Pennaeth y Flwyddyn

 

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am – Asia i Ynys Môn ar feic

</AI5>

<AI6>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor  (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7056 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

1

6

20

Oherwydd na chafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddau draean o’r Aelodau pleidleisio, gwrthodwyd y Cynnig.

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 - Tynnwyd yn ôl

Tynnwyd yr eitem yn nôl.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM7053 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig   - Yr Economi

Dechreuodd yr eitem am 16.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio.

NDM7055 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

2. Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn economi Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan gynnwys:

a) symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;

b) sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol;

c) diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig;

d) uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac

e) gwella seilwaith.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

1

33

46

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:

a) 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;

b) cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;

c) gostyngiad o dros hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;

d) y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;

e) y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.

2. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.

3. Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.

5. Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

21

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 -Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a

b) deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar wariant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

13

29

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

2

13

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 -Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen allweddol o economi Cymru.   

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

2

10

49

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:

a) 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;

b) cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;

c) gostyngiad o dros hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;

d) y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;

e) y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.

2. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.

3. Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.

5. Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.

6. Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.

7. Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen allweddol o economi Cymru.   

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

22

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.15

</AI10>

<AI11>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.19

NDM7054 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Anadlu'n haws yng Nghymru: Gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint a rhoi'r gorau i smygu.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.43

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>